Oes Aur Bydwreigiaeth yn Sir Fynwy

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rwyf wedi bod yn catalogio cofnodion gwasanaeth bydwreigiaeth Cyngor Sir Fynwy (Archifau Gwent Cyf: C/HCM). Mae’r casgliad yn pontio’r blynyddoedd 1911-1969, gan ymestyn dros gyfnod tebyg o newid cymdeithasol i raglen deledu’r BBC ‘Call the Midwife’.

Roedd pob bydwraig ardal yn cadw ei chofnodion ei hun, rhai ohonynt yn gweithio yn ardaloedd trefol y cymoedd yn bennaf, tra bod eraill yn nwyrain y sir yn teithio drwy ardal wledig eang i ymweld â’u cleifion. Hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, roedd hyd at hanner plant yn cael eu geni yn y cartref, a byddai bydwragedd yn ymweld â chleifion yn rheolaidd trwy gydol y beichiogrwydd a phob dydd ar ôl yr enedigaeth am bythefnos. Y math hwn o ofal personol yw’r rheswm pam elwir y cyfnod 1940au – 1960au yn oes aur bydwreigiaeth. Roedd hefyd yn golygu baich gwaith drom i fydwragedd ardal. Er enghraifft, roedd un fydwraig o’r casgliad wedi helpu gyda genedigaeth 91 o fabanod mewn dwy flynedd.

Roedd y bydwragedd yn cadw Cofrestri o Achosion i gofnodi eu cleifion a chofnodion achos sy’n rhoi gwybodaeth fanylach ar unigolion. Mae’r cofnodion hyn yn rhoi syniad i ni o newidiadau mewn amodau cymdeithasol a domestig i fenywod yn Sir Fynwy. Hyd yn oed tan y 1960au, roedd hi’n gyffredin i gleifion gael saith neu wyth o blant tra eu bod dan 35 oed. Mae’r cofnodion hefyd yn dangos y defnydd cynyddol o gyffuriau meddygol. Ychydig iawn o gofnodion yn y cofrestrau cynnar sy’n nodi bod cyffuriau’n cael eu gweinyddu. Tri chlaf yn unig allan o naw a dderbyniodd unrhyw gyffuriau o gwbl yn y cofnod hwn o 1911 ymlaen. Yn ddiweddarach, mae bydwragedd yn nodi eu bod wedi derbyn tystysgrifau i weinyddu ‘nwy ac aer’ a’u bod yn cadw ‘Llyfrau Cyffuriau Bydwragedd’.

IMG_8626

Archifau Gwent: Cofrestr Achosion Bydwraig 1914, ardal Caldicot. 

IMG_8660

Archifau Gwent: Llyfr Cyffuriau Bydwragedd, Ffurflen ar gyfer Cais am Gymorth Meddygol, Cofrestr Pethidin, Llyfr Archebu Cyflenwad Cyffuriau Bydwragedd

Yr hyn sy’n amlwg ar unwaith am y cofnodion yw bod y mwyafrif llethol o gleifion yn cael eu cofnodi fel rhai priod ac nad yw’r cofnodion bob amser yn rhoi eu henwau cyntaf. Byddai hyn yn ymddangos yn hynod o amhersonol heddiw, ond efallai bod hyn yn cael ei ystyried yn barchus ar yr adeg. Roedd y rhan fwyaf o’r bydwragedd eu hunain hefyd yn briod. Hyd yn oed cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd modd cyflogi menywod priod fel bydwragedd heb orfod wynebu’r un ‘gwaharddiad’ â’r proffesiwn addysgu. Yn y cyfamser, roedd bydwragedd yn aml yn cofnodi galwedigaeth gŵr y claf. Er enghraifft, roedd galwedigaethau yn ardal Pont-y-pŵl yn y 1960au yn cynnwys Dyn Camera gyda’r BBC, gweithiwr dur, rheolwr yswiriant, darlithydd cynorthwyol, a gwneuthurwr patrymau.

IMG_8663

Archifau Gwent: Canolfan Hyfforddi Bydwreigiaeth, Tredegar. Cofrestr Achosion, 1916. 

Nid oes galwedigaethau byth yn ymddangos ar gyfer y cleifion eu hunain. Mae’r casgliad hefyd yn cynnwys cofrestrau Cartref Nyrsio Tredegar a Chartref Mamolaeth. Roedd y cartref nyrsio hwn hefyd yn gweithredu fel ysgol hyfforddi bydwragedd yn y sir, a goruchwyliwyd nifer o enedigaethau gan fydwragedd profiadol gyda chymorth eu ‘disgyblion’. Yn aml, cynorthwywyd y bydwragedd gan Dr. A.J. Cronin, awdur ‘The Citadel’ erbyn hyn, sef y nofel a seiliodd ar ei brofiadau yn gweithio i’r Gymdeithas Cymorth Meddygol yn Nhredegar.

IMG_8662 copy ii

Archifau Gwent: Canolfan Hyfforddi Bydwreigiaeth, Tredegar. Cofrestr Achosion, 1923. 

Llyfryddiaeth:

McIntosh, Tania. ‘A Social History of Maternity and Childbirth: Key Themes in Maternity Care’. London: Routledge, 2012.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s